Amdanom Ni
Ceir ein hysgol ei llywio drwy ganoli’r plentyn; er mwyn sicrhau unigolion hapus, hyderus a llwyddiannus. Ein nôd yw darparu cwricwlwm egnïol a chynhwysfawr ble ddatblygir yr awch i ddysgu a llwyddo ymysg ein disgyblion.
Yr wyf yn ffodus iawn o gael arwain tîm o staff sydd yn gweithio’n galed i uchafu potensial a safon ymysg ein disgyblion. Mae’n flaenoriaeth gennym i uchafu llwyddiant pob plentyn drwy gyd weithio’n agos gyda rhieni/gwarchodwyr, y gymuned leol a clwstwr ysgolion cynradd Sir Ddinbych. Credwn yn gryf i addysg pob plentyn lwyddo drwy bartneriaeth gryf rhwng yr ysgol a’r cartref.
Nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd ein plant yn ffynnu dan adain gwarcheidiol staff Ysgol Dewi Sant. Drwy dderbyn y safon uchaf bosibl o addysg, a chyfleoedd yn ystod ei siwrnai ysgol, bydd pob plentyn yn barod ar gyfer y byd cyfnewidiol sydd ohoni.
Mrs M.A. Evans (Pennaeth)
Cysylltu
Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE
Ffôn: 01745 351355
Ffacs: 01745 351395
Trydar: @YsgolDewiSant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk