Clwb Brecwast
Mae Clwb Brecwast yr ysgol yn agor am 7:45yb Dydd Llun - Gwener (tymor ysgol yn unig) a redir gan aelodau staff yr ysgol. Mae'r clwb yn cynnig amrywiaeth o fwydydd iachus fel brecwast i'r plant. Cant ddewis o rawnfwyd, tôst, sudd a ffrwythau yn ddyddiol. Mae'r clwb ar gael ar gyfer disgyblion oed Derbyn hyd at Flwyddyn 6. Cost y clwb yw 50c y plentyn rhwng 7:45yb ac 8:00yb ond nid oes ffi ar gyfer y plant sy'n mynychu ar ôl 8yb.
Yn dilyn llond eu boliau o frecwast iachus mae'r plant yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau bwrdd, lliwio, posau a gemau yn y gampfa ac yna cant eu tywys yn ddiogel i'w dosbarthiadau am 8:40yb i'w cofrestru yn barod i gychwyn y diwrnod ysgol.
Cysylltu
Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE
Ffôn: 01745 351355
Ffacs: 01745 351395
Trydar: @YsgolDewiSant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk