Clwb Dewi (ar ol ysgol)

Mae Clwb Dewi yn wasanaeth gofal plant o'r safon uchaf sydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hwylus mewn amgylchedd croesawgar i ddisgyblion Ysgol Dewi Sant.

Mae Clwb Dewi yn cychwyn am 3:05pm (plant oed Cyfnod Sylfaen) / 3:15pm (disgyblion oed CA2) ac ar gael tan 6:00yh. Cynhelir Clwb Dewi ar dir yr ysgol.

Mae'r plant yn derbyn te ysgafn cyn mynd ymlaen i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau.

Am ragor o wybodaeth gyrrwch neges i'r cyfeiriad e-bost canlynol: clwbdewi1@gmail.com