Cwestiynau Cyffredin Rhieni Newydd
Gobeithiwn eich bod wedi gweld y wefan hon o ddefnydd i ddod i adnabod Ysgol Dewi Sant; isod rydym wedi nodi atebion i rai gwestiynau cyffredin gan rieni sy'n newydd i'r ysgol.
1. Rwy'n chwilio am le ysgol ar gyfer fy mhlentyn, beth ddylwn i ei wneud?
Mae croeso i chi drefnu apwyntiad i ymweld â ni, ffonio am sgwrs neu e-bostio unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn gwneud cais. Ar ôl gwneud penderfyniad bydd angen i chi gwblhau cais ar-lein yn https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preswyliwr/addysg/derbyn-i-ysgol/derbyn-i-ysgol.aspx
2. Pam dewis addysg gyfrwng Cymraeg?
Mae gan addysg Gymraeg nod syml iawn - galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn Saesneg a Chymraeg wrth ddysgu'r holl bynciau eraill ar draws y cwricwlwm. Mae plant ifanc yn dysgu ieithoedd yn rhyfeddol o hawdd - trwy wneud y mwyaf o'r potensial hwn mae addysg Gymraeg wedi dod mor boblogaidd.
Mae ymchwil yn dangos mai dyna'r ffordd orau o bell ffordd i gael plant i fod yn ddwyieithog yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Mae llawer o fanteision i fod yn ddwyieithog. Mae'n ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle: mae'r gallu i siarad Cymraeg naill ai'n sgil hanfodol neu'n sgil ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Cymru ddwyieithog trwy ei strategaeth Gymraeg ‘Cymraeg 2050’ gyda gweledigaeth ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Mae mwy o alw heddiw nag erioed o’r blaen am sgiliau dwyieithog mewn amrywiaeth o feysydd fel iechyd, addysg, hamdden, gofal plant, manwerthu, a gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r Gymraeg yn rhoi mynediad i blant i ddiwylliant - gan gynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth, cyfryngau digidol, a llu o bethau eraill - na fyddai ar gael iddynt fel arall.
3. Nid ydym yn siarad Cymraeg gartref - a fydd hyn yn effeithio fy mhlentyn?
Nid yw'r mwyafrif helaeth (tua 96%) o'n disgyblion yn siarad Cymraeg gartref. Felly mae dod o gefndir di-Gymraeg yn hollol normal ac mae'r cwricwlwm wedi'i ddylunio gan ystyried hynny. Nid yw ysgolion Cymraeg yn disgwyl bod pob plentyn yn gallu siarad Cymraeg pan fyddant yn cychwyn, ond byddant yn helpu'r plant hynny i ddod yn rhugl yn y Gymraeg yn fuan iawn.
4. Sut alla i helpu fy mhlentyn gyda gwaith cartref os nad ydw i'n siarad Cymraeg?
Gan nad yw'r mwyafrif o blant yr ysgol yn siarad Cymraeg gartref, rydym yma yn Ysgol Dewi Sant yn brofiadol iawn wrth gefnogi disgyblion a rhieni.
Anfonir pob gohebiaeth o'r ysgol yn ddwyieithog at rieni a gwarchodwyr.
Gweler y rhestr o ddolenni defnyddiol ar y wefan hon i'ch cynorthwyo fel rhieni i gefnogi dysgu eich plentyn gartref.
http://www.ysgoldewisant.co.uk/gwefanau-defnyddiol.html
5. I ba ysgol uwchradd mae'r plant yn ei mynychu ar ôl gadael Ysgol Dewi Sant?
Mae'r rhan fwyaf o'n disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Glan Clwyd ar ddiwedd Blwyddyn 6, Ysgol Uwchradd Gymraeg yn Llanelwy. Dilynwch y ddolen isod i wefan Ysgol Glan Clwyd; http://ysgolglanclwyd.co.uk/
6. A fydd Ysgol Dewi Sant yn cefnogi fy mhlentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol?
Rydym yn cefnogi dysgu pob plentyn ac yn anelu i sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob gweithgaredd ysgol. Os oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gallant dderbyn cefnogaeth gan nifer o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ein Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Ein nod yw adnabod a chefnogi amrywiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol a gydnabyddir ar unrhyw gam o addysg, a gweithio mewn partneriaeth â rhieni ac asiantaethau eraill, i ddiwallu'r anghenion hyn yn y modd mwyaf priodol, cadarnhaol ac effeithiol.
7. Pamffled wybodaeth rhieni newydd i'r Meithrin
Cysylltu
Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE
Ffôn: 01745 351355
Ffacs: 01745 351395
Trydar: @YsgolDewiSant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk