Cyngor Eco
Fel y Cyngor Eco rydym yn gyfrifol am ofalu am amgylchedd yr ysgol. Rydym hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod yr ysgol mor ecogyfeillgar â phosibl. Eleni, dewisom i ganolbwyntio ar 3 bwynt allweddol i ddatblygu'r ysgol ymhellach.
- Lleihau'r defnydd o blastig untro drwy'r ysgol.
- Sicrhau biniau ail-gylchu ymhob ystafell ddosbarth a
- Thacluso safle'r ysgol a'r gymuned drwy gasglu sbwriel a threfnu 'Beach Clean-Up'
Rydym wedi bod yn brysur yn cwblhau'r pwyntiau hyn trwy gasglu ysbwriel o amgylch yr ysgol, cynnwys ein cymuned gyda'n ’Tip Eco yr Wythnos' a lleihau plastig untro drwy gasglu potiau iogwrt a chaeadau.
Cysylltu
Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE
Ffôn: 01745 351355
Ffacs: 01745 351395
Trydar: @YsgolDewiSant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk