Cyngor Ysgol Dewi Sant
Croeso i dudalen y Cyngor Ysgol.
Beth yw'r Cyngor Ysgol?
Mae'r Cyngor Ysgol yn cynrychioli llais disgyblion yr ysgol. Bwriad y Cyngor yw casglu a codi syniadau newydd a sicrhau hapusrwydd holl ddisgyblion yr ysgol. Yn y cyfarfodydd bydd y Cyngor yn trafod gwahanol ffyrdd o wella’r ysgol yn fewnol, allanol ac yn addysgiadol. Bydd y Cyngor hefyd yn trefnu gweithgareddau gwahanol i’r disgyblion. Mae’r Cyngor Ysgol yn rhoi cyfle i’r disgyblion ddatblygu sgiliau diri gan gynnwys cyfathrebu, gwrando, mynegi barn, datrys problemau, gwneud penderfyniadau a myfyrio.
Pwy yw aelodau'r Cyngor Ysgol?
Ar ddechrau pob blwyddyn ysgol cynhelir pleidlais ble mae pob dosbarth o Flwyddyn 2-6 yn ethol un disgybl i’w cynrychioli ar y Cyngor Ysgol.
Aelodau’r Cyngor ysgol 2019-2020
Bl.6 Max a Nell
Bl.5 Ralph a Hannah
Bl.4 Sam a Emily
Bl.3 Leo a Reuben
Bl.2 Iwan a Sofia
Dros y misoedd diwethaf mae’r Cyngor Ysgol wedi bod yn cyfarfod amser cinio Dydd Mercher i drafod, trefnu a chreu adnoddau.
- Ym mis Medi trefnodd Y Cyngor Ysgol brynhawn goffi Macmillan i gasglu arian i’r elusen a gwahodd aelodau o’r gymuned i’r ysgol. Llwyddodd y Cyngor i gasglu £237.10 i’r elusen.
- Bu’r Cyngor Ysgol yn brysur yn paratoi ar gyfer y Ffair Nadolig yn ystod mis Tachwedd. Penderfynodd y Cyngor gynnal stondin gwerthu fferins er mwyn casglu arian i’r ysgol.
- Er mwyn codi ymwybyddiaeth disgyblion yr ysgol o rôl y Cyngor Ysgol penderfynodd y Cyngor gynnal gwasanaeth ysgol gyfan ym mis Ionawr. Yn y gwasanaeth cyflwynwyd y 'blwch syniadau' fel bod y disgyblion yn gallu rhannu ei syniadau gyda’r Cyngor. Mae'r bocs wedi profi i fod yn brysur iawn gan gryfhau llais y plentyn yn yr ysgol!
Cysylltu
Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE
Ffôn: 01745 351355
Ffacs: 01745 351395
Trydar: @YsgolDewiSant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk