Dreigiau Digidol
Mae rôl technoleg a gwybodaeth mewn ysgol gynradd yn hanfodol i gefnogi dysgu, datblygu sgiliau allweddol, ac i baratoi plant ar gyfer byd sy’n gynyddol ddibynnol ar dechnoleg. Yn Ysgol Dewi Sant mae gennym y Dreigiau Digidol sydd yn ein helpu i ddatblygu’r isod o fewn yr ysgol:
1. Cefnogi Dysgu yn y Cwricwlwm
Mae gwybodaeth digidol yn darparu dulliau creadigol a rhyngweithiol o gyflwyno gwybodaeth ymhob pwnc, gan gynnwys:
- Mathemateg: Defnyddio apiau rhyngweithiol a gemau addysgiadol.
- Iaith: Datblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu drwy feddalwedd a chyfryngau digidol.
- Gwyddoniaeth a’r Dyniaethau: Archwilio syniadau drwy dechnoleg rithiol neu adnoddau ar-lein.
2. Datblygu Sgiliau Allweddol
Mae plant yn dysgu sgiliau sylfaenol mewn technoleg sy’n eu paratoi ar gyfer y dyfodol:
- Defnyddio cyfrifiaduron, llechi, neu ddyfeisiau eraill yn hyderus.
- Sgiliau teipio, creu dogfennau, a defnyddio rhaglenni sylfaenol i rannu gwybodaeth.
- Dysgu codio sylfaenol.
3. Datblygu Sgiliau Meddwl Beirniadol
- Archwilio a chymharu gwybodaeth o wahanol ffynonellau.
- Datrys problemau trwy ddulliau creadigol a rhyngweithiol.
4. Cefnogi Creadigrwydd a Chydweithio
Hyrwyddo gwaith tîm a chreadigrwydd, drwy:
- Greu prosiectau cydweithredol drwy feddalwedd amrywiol.
- Defnyddio dylunio graffeg neu apiau animeiddio i fynegi syniadau.
5. Datblygu Ymwybyddiaeth Ddigidol a Diogelwch Ar-lein
Sicrhau defnydd diogel o’r rhyngrwyd:
- Deall y risgiau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd.
- Dysgu am bwysigrwydd preifatrwydd ar-lein ac ymddygiad cyfrifol ar gyfryngau cymdeithasol.
6. Paratoi ar gyfer y Dyfodol
- Mae TG yn datblygu sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer addysg uwchradd ac i’r byd gwaith.
- Helpu plant i addasu i dechnolegau newydd wrth iddynt ddod i’r amlwg.
Cysylltu
Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE
Ffôn: 01745 351355
Ffacs: 01745 351395
Trydar: @YsgolDewiSant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk