Gwisg yr ysgol ac Addysg Gorfforol

Yma yn Ysgol Dewi Sant, rydym yn falch iawn o’n gwisg ysgol. Mae’r wisg ysgol yn rhoi yr ymdeimlad o berthyn i gymuned clos yr ysgol. Mae arwyddair yr ysgol i weld yn glir ar ein siwmperi ‘Dwy iaith, dyfodol disglair’

Mae pob un ohonom yng nghymuned yr ysgol yn ymwybodol o bwysicrwydd yr arwyddair; pwysicrwydd dwy-ieithrwydd yn y Byd cyfnewidiol sydd ohoni.

Mae posib archebu y wisg ysgol yn lleol o’r mannau a restrwyd isod. Am restr llawn o eitemau ein gwisg ysgol swyddogol – ewch i’r prospectws ar lein ar y wefan yma.

Rydym yn derbyn archebion ar gyfer bagiau ysgol trwy law y swyddfa. Dewch i'r ddesg blaen neu gyrrwch e-bost os am archebu.
  • 060520-bag1
  • 060520-bag2
  • 060520-bag3

Fel ysgol rydym yn annog y disgyblion i newid cyn pob sesiwn ymarfer corff. Disgwylir i'r disgyblion fod hefo bag yn yr ysgol sy'n cynnwys; crys T, siorts a phymps / treinyrs. Bydd y disgyblion yn cadw'r bag yn yr ysgol am hanner tymor. Mae posib archebu y dillad ymarfer corff o'r siopau a restrwyd uchod. A chofiwch nodi enw llawn eich plentyn ar bob ddilledyn.

Grant gwisg ysgol

Grant gwisg ysgol

Os yw eich plentyn yn mynd i ddosbarth derbyn, blwyddyn 3 neu flwyddyn 10 ym mis Medi a'ch bod yn derbyn budd-dal cymwys, efallai bod gennych yr hawl i dderbyn grant tuag £125.00 at gost gwisg ysgol......cliciwch yma am fwy o wybodaeth