Meddylfryd Twf

Beth yw Meddylfryd tŵf?
Mae meddylfryd tŵf yn ffordd o ddatblygu gwytnwch a datblygu meddylfryd o weld methiant a chamgymeriadau fel cyfle i ddysgu. Mae ethos o feddylfryd tŵf yn cael ei ddatblygu yn gryf ac yn gadarn yn Ysgol Dewi Sant ar hyd y blynyddoedd dysgu.

Yn Ysgol Dewi Sant rydym wedi adnabod 8 cyhyr dysgu gall y plant ymarfer er mwyn ‘tyfu’ eu hymennydd.

  • 070720-llun1-lrg

Disgrifiad o eiriau:

DYFALBARHAU
CHWILFRYDEDD
CANOLBWYNTIO
CREADIGRWYDD
MWYNHAU DYSGU
PARHAU I WELLA
RHOI CYNNIG ARNI
CYDWEITHIO

Sydd yn gwneud y geiriau Dewi Sant

Storiau Meddylfryd tŵf
Darllenwch y storiau hyn i ddysgu mwy am y cyhyrau dysgu
Creadigrwydd.pptx
Chwilfrydedd.pptx
Cydweithio.ppt
Dyfalbarhau.ppt
Mwynhau dysgu a Parhau i wella.ppt
Parhau i wella.pptx
Rhoi gynnig arni.ppt

Class Dojo a Meddylfryd o Dwf.
Mae llawer o glipiau byr ynglyn â Meddylfryd o Dwf ar gael ar app a gwefan Class Dojo. Dilynnwch y link i'w gwylio;

https://ideas.classdojo.com/b/growth-mindset
https://ideas.classdojo.com/b/perseverance
https://ideas.classdojo.com/b/big-challenges

Yn y dosbarth
Dros y dwy flynnedd diwethaf, rydym wedi bod yn brysur yn datblygu dosbarthiadau sy’n hybu meddylfryd o dwf yn hytrach na meddylfryd sefydlog (fixed) drwy wneud y canlynnol;

  • Cyflwyno Emojis (yr 8 cyhyr dysgu)

Gofynwyd i'r plant ddod fyny hefo cymeriadau ‘emoji’ eu hunan oedd yn cyd-fynd a’r cyhyrau dysgu. Dyma ‘r 8 emoji greuwyd;


  • 070720-ein-cyhyrau-dysgu-lrg

Dyfalbarhau, Canolbwyntio, Creadigol, Mwynhau Dysgu, Parhau i wella, Rho gynnig arni, Canolbwyntio

  • Gwersi wythnosol

Rydym yn dysgu 1 wers Meddylfryd o Dwf yr wythnos yn dilyn syniadau o’r lyfr Shirley Clarke

  • Cynllun marcio

Rydym wedi addasu ein cynllun marcio fel bod llawer mwy o ‘feedback’ effeithiol yn digwydd rhwng yr athrawon a’r disgyblion. Golygai hyn fod y plant yn adnabod eu camgymeriadau ac yn ymwybodol o’r camau nesaf sydd angen gwneud er mwyn gwella. Rydym yn defnyddio ‘pinc perffaith’ i dynnu sylw at yr hyn y maen’t wedi gwneud yn dda a ‘glas gwella’ i dynnu sylw at gamgymeriadau neu rhywbeth sydd angen ei addasu/newid. Mae’r plant hefyd yn marcio gwaith eu hunain a gwaith eu gilydd yn defnyddio’r cynllun marcio yma lle gaiff llawer o drafodaeth rhwng y plant am eu dysgu eu hunain.

  • 070720-cofiwch
  • 070720-symbolau-adborth
  • Partneriaid parablu

Mae pob dosbarth yn wahanol pan yn dod I ddewis partneriaid parablu.
e.e. ym mlwyddyn 1, bydd ar athrawon yn dewis y partneriaid ar hap ar fore dydd Llun ac yna, bydd yn plant yn gweithio ofewn grwpiau o 6 neu 8 gyda’i partneriaid. Mae hyn yn golygu bod cyfleoedd i blant gyd-weithio gyda unigolion gwahanol pob wythnos. Mae gan bawb gryfderau a gwendidau ac mae gweithio gyda partner yn golygu bod pawb yn gallu dysgu gan eu gilydd.

  • 070720-partmeriaid-lrg

 


  • Camgymeriadau campus

Mae gan pob dosbarth wal ’Camgymeriadau Campus’ ble fydd athrawon a disgyblion yn trafod camgymeriadau sydd yn codi wrth farcio gwaith. Mae’n gyfle gwych I ddisgyblion weld bod camgymeriadau yn rhywbeth ddylwn ni ddathlu er mwyn symuyd ymlaen a gwella. Yn ysgol Dewi Sant, rydym yn dathlu camgymeriadau. Mae cangymeriad yn ran o ddysgu a datblygu.

Mistakes that Worked
The Girls Who Never Made Mistakes
15 Accidental Inventions You Can't Imagine Your Life Without

  • 070720-symbolau-adborth

 

  • Dewis her


Fel rhan o allu gwella meddylfryd y plant, mae’n bwysig eu bod nhw yn gallu adnabod pa waith sydd ddigon heriol iddyn nhw. Mae’n bwysig nad yw plant yn treulio gormod o amser yn eu parth dysgu cyfforddus gan nad yw hynny yn eu hymestyn yn feddyliol. Mae lefelau gwahanol o her yn cael eu cynrychioli gan liwiau gwahanol yn ein hysgol ni: Coch yw’r weithgaredd mwyaf heriol, yna glas ac yna gwyrdd.

  • 070720-meddylfryd-o-dwf-lrg

 

 


Cysylltu

Ysgol Gymraeg Dewi Sant,
Ffordd Rhuddlan,
Y Rhyl, Sir Ddinbych,
LL18 2RE

Ffôn: 01745 351355
Ffacs: 01745 351395
Trydar: @YsgolDewiSant
Ebost: dewi.sant@denbighshire.gov.uk

Yn yr adran yma: